NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ionawr 2014 fel y diwrnod y daw’r Cod Apelau Derbyn Ysgol (“y Cod Apelau”) a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 84 a 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“DSFfY 1998”) i rym. Mae’r Cod Apelau yn gymwys o ran Cymru.

Mae’r Cod Apelau yn disodli’r Cod Apelau Derbyn Ysgol a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf 2009. Mae’r Cod Apelau yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed i DSFfY 1998 ers y dyddiad hwnnw.

Mae’r Cod newydd yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion a materion eraill mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer apelau mewn perthynas â derbyn i ysgolion. O dan adran 84(3) o DSFfY 1998, dyletswydd awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, fforymau derbyn a phaneli apêl, wrth arfer swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o DSFfY 1998, yw gweithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod. Yn ogystal, rhaid i unrhyw berson arall, wrth arfer unrhyw swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan y Bennod honno, weithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod.

Y prif newidiadau a gyflwynir gan y Cod yw:

a

bod rhaid i awdurdodau derbyn sicrhau bod pob aelod o’r panel yn cael hyfforddiant bob tair blynedd;

b

y caiff awdurdodau derbyn, wrth gynnal apelau, ddefnyddio eu hadeiladau eu hunain os oes angen ar yr amod eu bod o bellter addas o waith yr awdurdod derbyn; ac

c

bod rhaid i aelodau’r panel ystyried a yw’r trefniadau derbyn yn cydymffurfio â Rhan 3 o DSFfY 1998 a’r Cod Derbyniadau Ysgol.

Daw’r Cod Apelau i rym ar 1 Ionawr 2014 ac mae’n gymwys i bob apêl y gwrandewir arni ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae Cod Apelau Derbyn Ysgol 2009 yn gymwys i apelau y gwrandewir arnynt cyn y dyddiad hwnnw.