NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg (“y Tribiwnlys”). Bydd y Tribiwnlys wedi’i ffurfio o Lywydd, aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ac aelodau lleyg. Mae adran 120 o’r Mesur yn darparu mai Gweinidogion Cymru sy’n penodi aelodau’r Tribiwnlys.

Mae paragraff 9(1) o Atodlen 11 i’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ynghylch penodi aelodau’r Tribiwnlys (y cyfeirir atynt yn y Mesur fel “rheoliadau penodi”).

Mae paragraff 9 o Atodlen 11 i’r Mesur hefyd yn darparu y caiff y rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill;

a

gwneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion i’w dilyn wrth wneud unrhyw benodiad i’r Tribiwnlys (paragraff 9(2)(a));

b

gwneud darpariaeth ynghylch gwybodaeth o’r Gymraeg a hyfedredd ynddi y mae’n rhaid i aelodau’r Tribiwnlys feddu arnynt (paragraff 9(2)(b));

c

cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus (paragraff 9(3)(a));

d

gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath (paragraff 9(3)(b));

e

rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall) gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn (paragraff 9(4)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru wrth iddynt benodi aelodau i’r Tribiwnlys.

Mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i benodiadau a wneir gan Weinidogion Cymru gael eu gwneud ar sail teilyngdod, a rhaid i’r person a benodir fod o gymeriad da. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud hi’n ofynnol iddynt roi sylw i’r angen i gynnal annibyniaeth y Tribiwnlys a chynnal rheolaeth y gyfraith wrth iddynt benodi. O dan reoliad 4, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â phenodi person i fod yn Llywydd oni bai eu bod wedi eu bodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o’r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi. Wrth benodi aelodau eraill y Tribiwnlys, mae Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i roi sylw i’r wybodaeth o’r Gymraeg a’r hyfedredd ynddi sydd gan aelodau’r Tribiwnlys gyda’i gilydd.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i’r angen i annog amrywiaeth ymysg yr ystod o bobl y maent yn eu penodi yn aelodau’r Tribiwnlys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.