2013 Rhif 3139 (Cy. 312)
Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 120(4) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 20111 a pharagraff 9 o Atodlen 11 iddo, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) 2013.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2014.
Teilyngdod a chymeriad da2
1
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau’r Tribiwnlys2 ar sail teilyngdod y personau hynny sydd i’w penodi.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag apwyntio person yn aelod o’r Tribiwnlys oni bai eu bod wedi eu bodloni bod y person o gymeriad da.
Egwyddorion i’w dilyn3
Wrth benodi aelodau’r Tribiwnlys rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r angen i gynnal egwyddorion—
a
annibyniaeth y Tribiwnlys; a
b
rheolaeth y gyfraith.
Y Gymraeg, gwybodaeth a hyfedredd4
1
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â phenodi person i fod yn Llywydd y Tribiwnlys oni bai eu bod wedi eu bodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o’r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi.
2
Wrth benodi aelodau’r Tribiwnlys ac eithrio’r Llywydd, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r wybodaeth o’r Gymraeg a’r hyfedredd ynddi sydd gan aelodau’r Tribiwnlys gyda’i gilydd.
3
Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 2 a 3.
Annog Amrywiaeth5
Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bersonau y maent yn eu penodi’n aelodau o’r Tribiwnlys.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)