(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 er mwyn ymdrin ag effaith taliad annibyniaeth y lluoedd arfog ar y profion modd ar gyfer derbyn grantiau cyfleusterau i’r anabl.
Mae’r rhain yn cynnwys: diwygiadau yn ymwneud â gostwng yr incwm asesiedig er mwyn ystyried taliadau gofal plant, diwygiadau yn ymwneud â’r hawl i bremiymau penodol pan fo personau anabl neu aelodau o’u haelwydydd yn derbyn taliad annibyniaeth y lluoedd arfog, a diwygiad er mwyn diystyru taliad annibyniaeth y lluoedd arfog wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion.
Mae taliad annibyniaeth y lluoedd arfog yn gymwys i’r premiwm plentyn anabl pan fo’r person ifanc dan sylw yn ddigon hen i gael ei gyflogi yn y lluoedd arfog.