(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, pan fydd cais ysgrifenedig yn dod i law oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, gyflenwi, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, unrhyw wybodaeth y bydd yr awdurdod yn gofyn amdani mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2007 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ddarparu i awdurdod lleol wybodaeth ychwanegol at yr wybodaeth y mae eisoes yn ofynnol iddo ei ddarparu yn rhinwedd Rheoliadau 2007 mewn perthynas â gwahardd disgyblion yn barhaol. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2007 ymhellach er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol mewn perthynas â gwahardd disgyblion am gyfnod penodol.