2013 Rhif 3137 (Cy. 310)
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 13 Ionawr 2014.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio2
1
Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 20073 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 3, yn y man priodol, mewnosoder—
“ystyr “gwaharddiad cyfnod penodol” (“fixed period exclusion”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi ei wahardd am gyfnod neu gyfnodau penodol, am resymau disgyblu, o’r ysgol y gwneir cais iddi o dan reoliad 3 neu 5;”.
3
Yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn lle paragraff 1 rhodder—
1
Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o’r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth
a
rhif unigryw cyfredol disgybl;
b
rhif unigryw cyfredol dysgwr, os yw’n hysbys;
c
cyfenw;
ch
enw cyntaf, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
d
enw canol, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
dd
rhyw;
e
dyddiad geni;
f
y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol;
ff
y rheswm dros y gwaharddiad; ac
g
a oedd y gwaharddiad yn waharddiad parhaol neu’n waharddiad cyfnod penodol.
2
Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd o’r ysgol am gyfnod penodol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth
a
rhif unigryw cyfredol disgybl;
b
rhif unigryw cyfredol dysgwr, os yw’n hysbys;
c
cyfenw;
d
enw cyntaf, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
e
enw canol, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
f
rhyw;
g
dyddiad geni;
h
y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad;
i
nifer y sesiynau ysgol y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt;
j
y rheswm dros y gwaharddiad; ac
k
a oedd y gwaharddiad yn waharddiad parhaol neu’n waharddiad cyfnod penodol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)