Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20062.
(1)
Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru 20065 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn rheoliad (2)(1) (dehongli)—
(a)
hepgorer ““Rheoliad 1162/2009” (“Regulation 1162/2009”)”; a
(b)
yn lle “a “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”)” rhodder “, “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) a “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”)”.
(3)
yn Atodlen 1 (Diffiniadau o Ddeddfwriaeth UE)—
(a)
hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1162/2009”;
(b)
yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 1079/2013””;
(c)
yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 1079/2013””;
(d)
yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 702/2013””;
(e)
ar y diwedd, mewnosoder—
““ystyr “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 702/2013 ar fesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran achredu labordai swyddogol sy’n cynnal profion swyddogol ar gyfer Trichinella6;ystyr “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1079/2013 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor7..”.