Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesiad addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education assessment”) yw arolwg o’r galw ymhlith rhieni mewn ardal awdurdod lleol am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn unol ag adran 86(1) o Ddeddf 2013;
ystyr “asesiadau” (“assessments”) yw—
(a)
unrhyw drefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) neu (3)(c) o Ddeddf 2002; a
(b)
unrhyw asesiad arall o ddisgyblion a wneir gan athrawon at ddiben canfod lefel cyrhaeddiad disgyblion yn y Cwricwlwm Cenedlaethol;
ystyr “blwyddyn asesu” (“assessment year”) yw’r flwyddyn ysgol y cafodd y disgyblion eu hasesu ynddi ac sy’n union cyn y flwyddyn ysgol gyfredol;
ystyr “canolfannau hwyrddyfodiaid” (“centres for latecomers”) yw canolfannau dysgu’r Gymraeg a sefydlir gan awdurdodau lleol i ddarparu gwersi Cymraeg dwys i ddisgyblion oedran ysgol gynradd ac uwchradd;
ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw rai o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;
mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i’w ddehongli’n unol ag adran 102 o Ddeddf 2002;
ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 85(1) o Ddeddf 2013;
ystyr “data perfformiad ysgol” (“school performance data”) yw unrhyw ddata sy’n ymwneud â pherfformiad disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus a’r dyfarniad o gymwysterau perthnasol;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;
ystyr “dyddiad cau asesiad addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education assessment closing date”) yw’r dyddiad a roddir gan awdurdod lleol yn unol â pharagraff (f) o Ran 2 o Atodlen 1 ar gyfer dychwelyd ymatebion i unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae wedi ei gynnal;
ystyr “fforwm addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol er mwyn gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg y mae ei aelodaeth yn cynnwys swyddogion awdurdod lleol a phersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn briodol;
ystyr “rhaglen astudio Cymraeg” (“Welsh programme of study”) yw’r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan o’r ddogfen Gymraeg sy’n dwyn y teitl ‘Cymraeg’;
ystyr “rhaglen astudio Cymraeg ail iaith” (“Welsh second language programme of study”) yw’r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan honno o’r ddogfen Gymraeg sy’n dwyn y teitl ‘Cymraeg ail iaith’; ac
ystyr “rhwydweithiau 14-19” (“14-19 networks”) yw grŵp o gyrff a phersonau o fewn ardal awdurdod lleol sy’n gweithio ynghyd i geisio sicrhau bod personau 14 i 19 oed yn yr ardal honno yn cael budd o’r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael i bersonau 14 i 19 oed a ddisgrifir yng nghylchlythyr 37/2004 sy’n dwyn y teitl “Llwybrau Dysgu 14-19 Canllawiau”.