ATODLEN 1Cwestiynau a gwybodaeth i’w cynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg
RHAN 1Cwestiynau i’w cynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg
Rhif | Cwestiwn |
|---|---|
1 | Sawl plentyn o dan 2 oed sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad ar hyn o bryd? |
2 | Beth yw dyddiadau geni pob plentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad ar hyn o bryd ac sydd o dan 2 oed? |
3 | Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio pa mor debygol yr ydych chi o anfon unrhyw blentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg os yw’r ysgol honno yn fwy na 2 filltir o’ch cartref—
|
4 | Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio pa mor debygol yr ydych chi o anfon plentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg os yw’r ysgol honno o fewn 2 filltir i’ch cartref—
|
5 | Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio beth sydd, yn eich barn chi, yn amser teithio derbyniol rhwng eich cartref ac ysgol cyfrwng Cymraeg ar fws—
|
6 | Beth yw eich cod post? |
RHAN 2Gwybodaeth i’w chynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg
Rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg—
a
datganiad cryno o ddiben yr asesiad addysg cyfrwng Cymraeg;
b
datganiad bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i blant Cymraeg a di-Gymraeg;
c
enwau a chyfeiriadau ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg;
d
disgrifiad o faint o addysgu sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o’r ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal yr awdurdod lleol;
e
esboniad cryno o’r cyfleoedd i ddisgyblion drosglwyddo o ysgolion cynradd a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg; ac
f
dyddiad cau’r asesiad addysg cyfrwng Cymraeg.