xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg (“Cynllun”). Mae adran 85 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ei Gynllun drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn i’r Cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi. Mae adran 86 o Ddeddf 2013 yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad o’r galw ymhlith rhieni yn ei ardal am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 87 a 98 o Ddeddf 2013. Maent yn darparu ar gyfer y materion a ganlyn:

(a)yr amgylchiadau y bydd yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ynddynt (rheoliad 3) a’r cwestiynau a’r wybodaeth i’w cynnwys yn yr asesiad hwnnw (Atodlen 1);

(b)cyfnod para’r cynllun (rheoliad 4);

(c)ffurf a chynnwys y cynllun (rheoliad 5 ac Atodlenni 2 a 3);

(d)y dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo (rheoliad 6);

(e)y dyddiad y mae rhaid cyhoeddi’r cynllun arno (rheoliad 7);

(f)dull cyhoeddi cynllun yr awdurdod lleol (rheoliad 8);

(g)y personau a’r cyrff y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy ynghylch y cynllun drafft (rheoliad 9); a

(h)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid adolygu’r cynllun ac â phwy y mae rhaid ymgynghori (rheoliad 10).