2013 Rhif 3048 (Cy. 307)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 86(1), 87 a 98 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 20131 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a Chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2013.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asesiad addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education assessment”) yw arolwg o’r galw ymhlith rhieni mewn ardal awdurdod lleol am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn unol ag adran 86(1) o Ddeddf 2013;

    ystyr “asesiadau” (“assessments”) yw—

    1. a

      unrhyw drefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) neu (3)(c) o Ddeddf 2002; a

    2. b

      unrhyw asesiad arall o ddisgyblion a wneir gan athrawon at ddiben canfod lefel cyrhaeddiad disgyblion yn y Cwricwlwm Cenedlaethol;

  • ystyr “asesu” (“assessed”) yw asesu’n unol ag unrhyw drefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf 20022 mewn perthynas â’r disgyblion sydd yn y cyfnod sylfaen;

  • ystyr “blwyddyn asesu” (“assessment year”) yw’r flwyddyn ysgol y cafodd y disgyblion eu hasesu ynddi ac sy’n union cyn y flwyddyn ysgol gyfredol;

  • ystyr “canolfannau hwyrddyfodiaid” (“centres for latecomers”) yw canolfannau dysgu’r Gymraeg a sefydlir gan awdurdodau lleol i ddarparu gwersi Cymraeg dwys i ddisgyblion oedran ysgol gynradd ac uwchradd;

  • ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw rai o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;

  • mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i’w ddehongli’n unol ag adran 102 o Ddeddf 2002;

  • ystyr “cyngor ysgol” (“school council”) yw cyngor ysgol wedi ei sefydlu yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 20053;

  • mae i “cymhwyster perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 19974;

  • ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 85(1) o Ddeddf 2013;

  • ystyr “data perfformiad ysgol” (“school performance data”) yw unrhyw ddata sy’n ymwneud â pherfformiad disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus a’r dyfarniad o gymwysterau perthnasol;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19985;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 20026;

  • ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;

  • ystyr “dogfen Gymraeg” (“Welsh document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”7 ac y cyfeirir ati yng Ngorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 20088;

  • ystyr “dyddiad cau asesiad addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education assessment closing date”) yw’r dyddiad a roddir gan awdurdod lleol yn unol â pharagraff (f) o Ran 2 o Atodlen 1 ar gyfer dychwelyd ymatebion i unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae wedi ei gynnal;

  • ystyr “fforwm addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol er mwyn gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg y mae ei aelodaeth yn cynnwys swyddogion awdurdod lleol a phersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn briodol;

  • ystyr “fforymau rhanbarthol 14-19” (“14-19 regional forums”) yw grŵp o gyrff a phersonau o fewn nifer o ardaloedd awdurdodau lleol sy’n gweithio ynghyd i geisio sicrhau bod personau 14 i 19 oed yn yr ardaloedd hynny yn cael budd o’r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael i bersonau 14 i 19 oed a ddisgrifir yng nghylchlythyr 37/2004 sy’n dwyn y teitl “Llwybrau Dysgu 14-19 Canllawiau”9;

  • ystyr “rhaglen astudio Cymraeg” (“Welsh programme of study”) yw’r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan o’r ddogfen Gymraeg sy’n dwyn y teitl ‘Cymraeg’;

  • ystyr “rhaglen astudio Cymraeg ail iaith” (“Welsh second language programme of study”) yw’r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan honno o’r ddogfen Gymraeg sy’n dwyn y teitl ‘Cymraeg ail iaith’; ac

  • ystyr “rhwydweithiau 14-19” (“14-19 networks”) yw grŵp o gyrff a phersonau o fewn ardal awdurdod lleol sy’n gweithio ynghyd i geisio sicrhau bod personau 14 i 19 oed yn yr ardal honno yn cael budd o’r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael i bersonau 14 i 19 oed a ddisgrifir yng nghylchlythyr 37/2004 sy’n dwyn y teitl “Llwybrau Dysgu 14-19 Canllawiau”.

Asesiad addysg cyfrwng Cymraeg3

1

Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei ardal gyfan neu unrhyw ran o’i ardal y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arni.

2

Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg os—

a

oes mwy na 50% o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn y rhan honno o’i ardal sy’n destun yr asesiad addysg cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hasesu yn—

i

maes dysgu datblygu’r Gymraeg ar y trydydd dydd Mawrth ym mis Ionawr yn y flwyddyn asesu; neu

ii

maes dysgu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg ar y trydydd dydd Mawrth ym mis Ionawr yn y flwyddyn asesu;

b

nad yw’r awdurdod lleol wedi cynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei ardal gyfan yn y 3 blynedd yn union cyn y flwyddyn asesu; ac

c

yw Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig fod rhaid iddo wneud hynny.

3

Rhaid i asesiad addysg cyfrwng Cymraeg gynnwys y cwestiynau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 a’r wybodaeth a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Cyfnod para’r cynllun4

1

Mae’r cynllun cyntaf yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2014 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017.

2

Mae’r cynlluniau dilynol yn cael effaith am y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn pan fo’r cynllun blaenorol yn dod i ben.

Ffurf a chynnwys y cynllun5

Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn Atodlen 2 gyda’r wybodaeth ategol a nodir yn Atodlen 3.

Cyflwyno’r Cynllun i Weinidogion Cymru6

1

Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 20 Ionawr 2014.

2

Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 20 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cael effaith ynddi.

Amseriad cyhoeddi’r cynllun7

1

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun cyntaf heb fod yn hwyrach na 1 Mehefin 2014.

2

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi pob cynllun dilynol (neu gynllun diwygiedig) heb fod yn hwyrach na 1 Mehefin yn y flwyddyn y mae’r cynllun (neu’r cynllun diwygiedig) i gael effaith.

Dull cyhoeddi’r cynllun8

Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynllun (neu’r cynllun diwygiedig) drwy—

a

ei roi ar wefan yr awdurdod lleol; a

b

sicrhau bod copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—

i

swyddfeydd yr awdurdod lleol; a

ii

unrhyw le arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

Ymgynghori9

1

Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol ynghylch y cynllun drafft—

a

Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 201110);

b

Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr adran 119 o Ddeddf 199811);

c

cynghorau ysgol;

d

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

e

unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn briodol; ac

f

unrhyw bersonau neu gyrff eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

2

Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), dim ond y cyrff hynny sydd â buddiant yn ardal yr awdurdod lleol sy’n destun asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae rhaid ymgynghori â hwy.

3

Rhaid i’r awdurdod ymgynghori ynghylch y cynllun drafft am gyfnod heb fod yn llai nag wyth wythnos.

4

Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal yr ymgynghoriad drwy anfon drafft o’r cynllun at bob ymgynghorai gan wahodd sylwadau arno o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol.

5

Caniateir bodloni’r gofyniad ym mharagraff (4) i anfon copi drafft o’r cynllun at bob ymgynghorai drwy anfon copïau dros e-bost.

Adolygu’r cynllun10

1

Rhaid i’r awdurdod lleol heb fod yn hwyrach na 20 Rhagfyr bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2014—

a

adolygu’r cynnydd a wneir gan yr awdurdod lleol yn erbyn y targedau a nodir yn y cynllun yn unol ag adran 84(1)(b) o Ddeddf 2013;

b

cyflwyno unrhyw gynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

2

Wrth gynnal yr adolygiad hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n eu hystyried yn briodol.

Huw LewisY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Cwestiynau a gwybodaeth i’w cynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg

Rheoliad 3(3)

RHAN 1Cwestiynau i’w cynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg

Rhif

Cwestiwn

1

Sawl plentyn o dan 2 oed sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad ar hyn o bryd?

2

Beth yw dyddiadau geni pob plentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad ar hyn o bryd ac sydd o dan 2 oed?

3

Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio pa mor debygol yr ydych chi o anfon unrhyw blentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg os yw’r ysgol honno yn fwy na 2 filltir o’ch cartref—

  1. a

    tebygol iawn;

  2. b

    eithaf tebygol;

  3. c

    tebygol;

  4. d

    annhebygol;

  5. e

    eithaf annhebygol; neu

  6. f

    annhebygol iawn.

4

Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio pa mor debygol yr ydych chi o anfon plentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg os yw’r ysgol honno o fewn 2 filltir i’ch cartref—

  1. a

    tebygol iawn;

  2. b

    eithaf tebygol;

  3. c

    tebygol;

  4. d

    annhebygol;

  5. e

    eithaf annhebygol; neu

  6. f

    annhebygol iawn.

5

Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio beth sydd, yn eich barn chi, yn amser teithio derbyniol rhwng eich cartref ac ysgol cyfrwng Cymraeg ar fws—

  1. a

    llai na 10 munud;

  2. b

    rhwng 10 munud ac 20 munud;

  3. c

    rhwng 20 munud a 30 munud;

  4. d

    rhwng 30 munud a 45 munud;

  5. e

    rhwng 45 munud a 60 munud; neu

  6. f

    mwy na 60 munud.

6

Beth yw eich cod post?

RHAN 2Gwybodaeth i’w chynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg

Rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg—

a

datganiad cryno o ddiben yr asesiad addysg cyfrwng Cymraeg;

b

datganiad bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i blant Cymraeg a di-Gymraeg;

c

enwau a chyfeiriadau ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg;

d

disgrifiad o faint o addysgu sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o’r ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal yr awdurdod lleol;

e

esboniad cryno o’r cyfleoedd i ddisgyblion drosglwyddo o ysgolion cynradd a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg; ac

f

dyddiad cau’r asesiad addysg cyfrwng Cymraeg.

ATODLEN 2Materion i ymdrin â hwy mewn cynllun

Rheoliad 5

1

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn cynyddu nifer y plant 7 oed sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

2

Datganiad yn nodi’r dulliau i’w defnyddio gan yr awdurdod lleol i asesu’r galw am ofal plant cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal.

3

Datganiad yn nodi’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd cyn pen 24 wythnos ar ôl dyddiad cau’r asesiad addysg cyfrwng Cymraeg i ateb y galw yn ei ardal am ofal plant cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg a nodir mewn unrhyw asesiad y mae wedi ei gynnal.

4

Datganiad yn nodi strategaethau’r awdurdod lleol o ran sut y bydd unrhyw geisiadau y bydd yn eu gwneud am gyllid grant gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwariant ar ysgolion a gynhelir yn ei ardal yn rhoi ystyriaeth i’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg a ganfuwyd mewn unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae wedi ei gynnal.

5

Datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg a ganfuwyd mewn unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae wedi ei gynnal.

6

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol i gynyddu’r cyfleoedd i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gymryd rhan mewn addysg cyfrwng Cymraeg ddwys a thrwy gynyddu mynediad i ganolfannau hwyrddyfodiaid.

7

Datganiad yn nodi a fydd yr awdurdod lleol yn sefydlu fforwm addysg cyfrwng Cymraeg.

8

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn ceisio sicrhau bod adnoddau ariannol digonol ar gael i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg i blant hyd at 7 oed.

9

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer rhoi gwybodaeth i rieni o ran argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg a’r math o addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.

10

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer cynyddu canran y disgyblion sydd yn y flwyddyn olaf o’r trydydd cyfnod allweddol ac sy’n dilyn y rhan honno o’r rhaglen astudio sy’n dwyn y teitl “Cymraeg” ac a nodir yn y ddogfen Gymraeg.

11

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer sicrhau parhad addysg cyfrwng Cymraeg pan fydd plant yn trosglwyddo o—

a

addysg feithrin a ariennir ond nas cynhelir i addysg feithrin a ariennir;

b

y cyfnod sylfaen i’r ail gyfnod allweddol;

c

yr ail gyfnod allweddol i’r trydydd cyfnod allweddol; a

d

y trydydd cyfnod allweddol i’r pedwerydd cyfnod allweddol.

12

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer cynyddu faint o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir mewn unrhyw ysgolion a gynhelir ganddo sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

13

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer cynyddu canran y plant 15 oed a throsodd sy’n astudio am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.

14

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswydd yn adran 116B o Ddeddf 200212.

15

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gweithio drwy rwydweithiau 14-19 a fforymau rhanbarthol 14-19 i gynnal a gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal ar gyfer personau 14 i 19 oed.

16

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn casglu ac yn defnyddio data perfformiad ysgol i wella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg i bersonau 14 i 19 oed.

17

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol i wella safonau llythrennedd yn y Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

18

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg, a safonau addysg cyfrwng Cymraeg, i’r disgyblion hynny sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg.

19

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg, a safonau addysg cyfrwng Cymraeg, i’r disgyblion hynny sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith.

20

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn cynyddu’r cyfleoedd i ddisgyblion siarad Cymraeg ac eithrio fel rhan o’r addysg cyfrwng Cymraeg ffurfiol a ddarperir gan ysgol.

21

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion y mae angen cymorth dysgu ychwanegol arnynt sy’n deillio o unrhyw anhawster y mae y disgybl yn ei gael wrth ddysgu mewn perthynas â disgyblion eraill sydd o’r un oedran nad ydynt yn cael unrhyw anhawster wrth ddysgu.

22

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer sicrhau bod digon o staff addysgu i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

23

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella sgiliau iaith Cymraeg yr ymarferwyr hynny mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

24

Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella sgiliau addysgu’r ymarferwyr hynny sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

25

Datganiad yn nodi sut bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod y strategaethau y mae’n eu mabwysiadu i wella safonau addysgol ysgolion a gynhelir yn rhoi ystyriaeth lawn i’r cynllun.

ATODLEN 3Gwybodaeth ategol

Rheoliad 5

1

Nifer y plant sy’n mynychu—

a

meithrinfeydd a ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118 o Ddeddf 1998 ac sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg; a

b

meithrinfeydd nas ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118A o Ddeddf 1998 ac nad ydynt yn addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg.

2

Canran y disgyblion sy’n trosglwyddo i ysgolion cyfrwng Cymraeg a gynhelir a oedd yn mynychu—

a

meithrinfeydd a ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118 o Ddeddf 1998 ac sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg; a

b

meithrinfeydd nas ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118A o Ddeddf 1998 ac nad ydynt yn addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg.

3

Canran y disgyblion sy’n mynychu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a gynhelir sy’n trosglwyddo i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a gynhelir.

4

Mewn perthynas â disgyblion sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a’r pedwerydd cyfnod allweddol—

a

canlyniadau asesiadau’r disgyblion hynny; a

b

unrhyw gymwysterau perthnasol a ddyfarnwyd i’r disgyblion hynny.

5

Mewn perthynas â disgyblion sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a’r pedwerydd cyfnod allweddol—

a

canlyniadau asesiadau’r disgyblion hynny; a

b

unrhyw gymwysterau perthnasol a ddyfarnwyd i’r disgyblion hynny.

6

Nifer a chanran y disgyblion sydd wedi eu—

a

cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol yn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith;

b

heb eu cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol yn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg (“Cynllun”). Mae adran 85 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ei Gynllun drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn i’r Cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi. Mae adran 86 o Ddeddf 2013 yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad o’r galw ymhlith rhieni yn ei ardal am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 87 a 98 o Ddeddf 2013. Maent yn darparu ar gyfer y materion a ganlyn:

a

yr amgylchiadau y bydd yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ynddynt (rheoliad 3) a’r cwestiynau a’r wybodaeth i’w cynnwys yn yr asesiad hwnnw (Atodlen 1);

b

cyfnod para’r cynllun (rheoliad 4);

c

ffurf a chynnwys y cynllun (rheoliad 5 ac Atodlenni 2 a 3);

d

y dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo (rheoliad 6);

e

y dyddiad y mae rhaid cyhoeddi’r cynllun arno (rheoliad 7);

f

dull cyhoeddi cynllun yr awdurdod lleol (rheoliad 8);

g

y personau a’r cyrff y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy ynghylch y cynllun drafft (rheoliad 9); a

h

y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid adolygu’r cynllun ac â phwy y mae rhaid ymgynghori (rheoliad 10).