Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2013
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2013.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Diwygio Rheoliadau 19922.
(1)
Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014.
(2)
Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
YR ATODLEN
“SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area
Prescribed figure
Blaenau Gwent
55,660
Bridgend
110,834
Caerphilly
139,761
Carmarthenshire
146,779
Cardiff
276,824
Ceredigion
63,408
Conwy
93,634
Denbighshire
74,777
Flintshire
120,348
Gwynedd
98,397
Isle of Anglesey
56,447
Merthyr Tydfil
46,439
Monmouthshire
73,144
Neath Port Talbot
112,032
Newport
112,919
Pembrokeshire
98,021
Powys
107,174
Rhondda Cynon Taf
185,566
Swansea
192,893
Torfaen
71,767
Vale of Glamorgan (The)
99,722
Wrexham
106,615”
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (O.S. 1992/3238) (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41), mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle’r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).