Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2013.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19922.
Diwygio Rheoliadau 19922
1
Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014.
2
Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Lesley GriffithsY Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru