(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) a hynny’n effeithiol o 31 Rhagfyr 2013. Mae hefyd yn dynodi Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef coleg newydd a fydd yn cael ei redeg gan gwmni cofrestredig cyfyngedig, drwy warant at ddibenion adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”).
Mae’n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r gorfforaeth i Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) ac mae’n diogelu hawliau cyflogaeth cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf.
Effaith cymhwyso adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf yw cadw contractau cyflogaeth cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd fel petai’r contractau cyflogaeth wedi eu gwneud yn wreiddiol rhwng y cyflogeion a Choleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”). Daw cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd yn gyflogeion Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) o 31 Rhagfyr 2013.
Ystyr dynodi Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) yw y dylid trin y sefydliad fel sefydliad o fewn y sector addysg bellach at ddibenion y Deddfau Addysg (o fewn yr ystyr a roddir gan adrannau 91(1) a 91(3) o’r Ddeddf ac adran 578 o Ddeddf Addysg 1996).
Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.