2013 Rhif 3045 (Cy. 304)
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 28 o’r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.
Yn unol ag adran 27C(2) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, mae Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”)3 wedi cydsynio i’r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2013.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Diddymu a throsglwyddo3
Ar 31 Rhagfyr 2013 mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) wedi ei diddymu a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf i Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol, ac sy’n elusen sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol sy’n ddibenion addysgol yn unig.
Trosglwyddo Staff4
Mae adran 26(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) yn union cyn 31 Rhagfyr 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—
a
at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy’n gyflogedig fel hynny;
b
at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 31 Rhagfyr 2013;
c
at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”); a
d
at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”).
Dynodi5
Mae Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef sefydliad addysgol o’r math a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2) o adran 28 o’r Ddeddf, wedi ei ddynodi fel sefydliad at ddibenion yr adran honno.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)