Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau bilio yng Nghymru, a’r flwyddyn ariannol gyntaf y mae’r cynllun a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hi yw’r flwyddyn sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2014.
(4)
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 20122 wedi eu dirymu.