Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 3 Rhagfyr 20132.
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â Rhan 4 (adrannau 84 i 87) o Ddeddf 2013 i rym yw 3 Rhagfyr 2013.
Dyma’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 3 Rhagfyr 2013 Ran 4 (Cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg) o Ddeddf 2013.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adrannau 38, 39, 97 a 98 | 26 Ebrill 2013 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â gwneud a gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion | |
Adrannau 38 a 39 | 1 Hydref 2013 yn llawn | |
Pennod 2 o Ran 3 | 1 Hydref 2013 | |
Pennod 3 o Ran 3 | 1 Hydref 2013 | |
Pennod 4 o Ran 3 | 1 Hydref 2013 | |
Pennod 5 o Ran 3 | 1 Hydref 2013 | |
Pennod 6 o Ran 3 | 1 Hydref 2013 | |
Adrannau 97 a 98 | 4 Mai 2013 yn llawn | |
Adran 99 | 1 Hydref 2013 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5 | |
Atodlen 2 | 1 Hydref 2013 | |
Atodlen 3 | 1 Hydref 2013 | |
Paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4 | 1 Hydref 2013 | |
Rhan 2 o Atodlen 5 | 1 Hydref 2013 |