Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013

Offerynnau Statudol Cymru

2013 No. 3024 (Cy. 299) (C. 124)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013

Gwnaed

2 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 3 Rhagfyr 2013

2.  Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â Rhan 4 (adrannau 84 i 87) o Ddeddf 2013 i rym yw 3 Rhagfyr 2013.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 3 Rhagfyr 2013 Ran 4 (Cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg) o Ddeddf 2013.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adrannau 38, 39, 97 a 9826 Ebrill 2013 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â gwneud a gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion.S. 2013/1000 (Cy.105)
Adrannau 38 a 391 Hydref 2013 yn llawnO.S. 2013/1800 (Cy.182)
Pennod 2 o Ran 31 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Pennod 3 o Ran 31 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Pennod 4 o Ran 31 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Pennod 5 o Ran 31 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Pennod 6 o Ran 31 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Adrannau 97 a 984 Mai 2013 yn llawnO.S. 2013/1000 (Cy.105)
Adran 991 Hydref 2013 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Atodlen 21 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Atodlen 31 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 41 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Rhan 2 o Atodlen 51 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)