2013 No. 3005 (Cy. 297)
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 177 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20111 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 172(2)(d) o’r Mesur hwnnw ac mae wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
RHAN 1Darpariaethau Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Tachwedd 2013.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2Trefniadau amgen a threfniadau gweithrediaeth: addasiadau a darpariaethau eraill
Diwygio Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 20072
1
Diwygir Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 20072 yn unol â’r erthygl hon.
2
Yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 23, 24 a 25.
Diwygio Rheoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 19913
1
Diwygir Rheoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 19913 yn unol â’r erthygl hon.
2
Yn rheoliad 2 (ymwelwyr annibynnol) ym mharagraff (a)(i) hepgorer “, or a council manager of the local authority (within the meaning of section 11(4)(b) of the Local Government Act 2000 (local authority executives))”.
Diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 20004
1
Diwygir Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 20004 yn unol â’r erthygl hon.
2
Yn rheoliad 10 (atodol) ym mharagraff (2A) hepgorer “neu drefniadau amgen” a “neu Fwrdd” ac ym mharagraff (4) hepgorer y diffiniadau o “Bwrdd” a “trefniadau amgen”.
Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 20015
1
Diwygir Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 20015 yn unol â’r erthygl hon.
2
Yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniadau o “bwrdd” a “trefniadau amgen”.
3
Yn rheoliad 8 hepgorer paragraff (2).
4
Yn rheoliad 9 hepgorer paragraff (2).
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 20016
1
Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 20016 yn unol â’r erthygl hon.
2
Yn rheoliad 3 (dehongli Rhan II) hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen”.
3
Yn rheoliad 17 (y camau cyn y refferendwm)—
a
ym mharagraff (7)(a), hepgorer “neu drefniadau amgen”;
b
ym mharagraff 7(a)(i) hepgorer “neu’r trefniadau amgen”; ac
c
ym mharagraff (7)(b), hepgorer “neu drefniadau amgen”.
4
Yn rheoliad 20 (gofynion ynghylch cynigion)—
a
ym mharagraff (3)(a), hepgorer “na threfniadau amgen”;
b
ym mharagraff 3(a)(ii) hepgorer “na’r trefniadau amgen”; ac
c
ym mharagraff 3(b), hepgorer “neu drefniadau amgen”.
5
Yn rheoliad 24 (y camau os caiff cynigion refferendwm eu gwrthod)—
a
ym mharagraff (1)(b) yn lle “os nad oes trefniadau amgen ar waith gan yr awdurdod bryd hynny na threfniadau gweithrediaeth” rhodder “os nad oes trefniadau gweithrediaeth ar waith gan yr awdurdod bryd hynny”;
b
ym mharagraff (1)(c) hepgorer “neu tan y bydd wedi’i awdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol”;
c
hepgorer paragraff (1)(d);
d
ym mharagraff (2)(b) hepgorer “neu’r trefniadau amgen”; ac
e
ym mharagraff (4) hepgorer “neu drefniadau amgen”.
Diwygio Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 20017
1
Diwygir Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 20017 yn unol a’r erthygl hon.
2
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
a
hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen”; a
b
yn y diffiniad o “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg”, hepgorer “neu” ar ddiwedd paragraff (a) a hepgorer paragraff (b).
3
Hepgorer rheoliad 3 (trefniadau amgen).
4
Hepgorer rheoliad 11 (cynrychiolwyr eglwysig).
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 20028
1
Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 20028 yn unol â’r erthygl hon.
2
Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y diffiniad o “person perthnasol” hepgorer paragraff (b).
3
Hepgorer rheoliad 5 (y pŵer i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a rheolwr cyngor).
4
Yn rheoliad 12—
a
hepgorer paragraff (2); a
b
ym mharagraff (3)(c)(i) a (ii) yn lle “dwy ran o bump” rhodder “hanner”.
Parhau i ddefnyddio trefniadau amgen sy’n bodoli ar yr adeg y daw’r Gorchymyn hwn i rym9
1
Nid yw’r Rhan hon yn effeithiol o ran awdurdod lleol os yw’r awdurdod lleol yn dal i ddefnyddio trefniadau amgen ar y diwrnod ac ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym, na chyhyd ag y bydd yn dal i ddefnyddio’r trefniadau hynny.
2
Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 35 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
RHAN 3Trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau: addasiadau
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 200710
1
Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 20079 yn unol â’r erthygl hon.
2
Yn Atodlen 1, yn ail golofn y tabl—
a
yn lle “Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27D o Ddeddf Llywodraeth Leol 197210”;
b
yn lle “Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27F neu 27H o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”; ac
c
yn lle “Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27J neu 27L o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”.
Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 197911
1
Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 197911 yn unol â’r erthygl hon.
2
Yn rheoliad 4(2) (amrywio gorchmynion ynglŷn â grwpio plwyfi neu gymunedau) yn lle “or section 29” rhodder “section 27F or 27H”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)