Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013

Offerynnau Statudol Cymru

2013 No. 3005 (Cy. 297)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013

Gwnaed

27 Tachwedd 2013

Yn dod i rym

27 Tachwedd 2013

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 177 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 172(2)(d) o’r Mesur hwnnw ac mae wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

RHAN 1Darpariaethau Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Tachwedd 2013.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Trefniadau amgen a threfniadau gweithrediaeth: addasiadau a darpariaethau eraill

Diwygio Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007

2.—(1Diwygir Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007(2) yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 23, 24 a 25.

Diwygio Rheoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991

3.—(1Diwygir Rheoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991(3) yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn rheoliad 2 (ymwelwyr annibynnol) ym mharagraff (a)(i) hepgorer “, or a council manager of the local authority (within the meaning of section 11(4)(b) of the Local Government Act 2000 (local authority executives))”.

Diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000

4.—(1Diwygir Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000(4) yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn rheoliad 10 (atodol) ym mharagraff (2A) hepgorer “neu drefniadau amgen” a “neu Fwrdd” ac ym mharagraff (4) hepgorer y diffiniadau o “Bwrdd” a “trefniadau amgen”.

Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

5.—(1Diwygir Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(5) yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniadau o “bwrdd” a “trefniadau amgen”.

(3Yn rheoliad 8 hepgorer paragraff (2).

(4Yn rheoliad 9 hepgorer paragraff (2).

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001

6.—(1Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001(6) yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn rheoliad 3 (dehongli Rhan II) hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen”.

(3Yn rheoliad 17 (y camau cyn y refferendwm)—

(a)ym mharagraff (7)(a), hepgorer “neu drefniadau amgen”;

(b)ym mharagraff 7(a)(i) hepgorer “neu’r trefniadau amgen”; ac

(c)ym mharagraff (7)(b), hepgorer “neu drefniadau amgen”.

(4Yn rheoliad 20 (gofynion ynghylch cynigion)—

(a)ym mharagraff (3)(a), hepgorer “na threfniadau amgen”;

(b)ym mharagraff 3(a)(ii) hepgorer “na’r trefniadau amgen”; ac

(c)ym mharagraff 3(b), hepgorer “neu drefniadau amgen”.

(5Yn rheoliad 24 (y camau os caiff cynigion refferendwm eu gwrthod)—

(a)ym mharagraff (1)(b) yn lle “os nad oes trefniadau amgen ar waith gan yr awdurdod bryd hynny na threfniadau gweithrediaeth” rhodder “os nad oes trefniadau gweithrediaeth ar waith gan yr awdurdod bryd hynny”;

(b)ym mharagraff (1)(c) hepgorer “neu tan y bydd wedi’i awdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol”;

(c)hepgorer paragraff (1)(d);

(d)ym mharagraff (2)(b) hepgorer “neu’r trefniadau amgen”; ac

(e)ym mharagraff (4) hepgorer “neu drefniadau amgen”.

Diwygio Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001

7.—(1Diwygir Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(7) yn unol a’r erthygl hon.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen”; a

(b)yn y diffiniad o “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg”, hepgorer “neu” ar ddiwedd paragraff (a) a hepgorer paragraff (b).

(3Hepgorer rheoliad 3 (trefniadau amgen).

(4Hepgorer rheoliad 11 (cynrychiolwyr eglwysig).

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002

8.—(1Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002(8) yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y diffiniad o “person perthnasol” hepgorer paragraff (b).

(3Hepgorer rheoliad 5 (y pŵer i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a rheolwr cyngor).

(4Yn rheoliad 12—

(a)hepgorer paragraff (2); a

(b)ym mharagraff (3)(c)(i) a (ii) yn lle “dwy ran o bump” rhodder “hanner”.

Parhau i ddefnyddio trefniadau amgen sy’n bodoli ar yr adeg y daw’r Gorchymyn hwn i rym

9.—(1Nid yw’r Rhan hon yn effeithiol o ran awdurdod lleol os yw’r awdurdod lleol yn dal i ddefnyddio trefniadau amgen ar y diwrnod ac ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym, na chyhyd ag y bydd yn dal i ddefnyddio’r trefniadau hynny.

(2Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 35 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

RHAN 3Trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau: addasiadau

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007

10.—(1Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(9) yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn Atodlen 1, yn ail golofn y tabl—

(a)yn lle “Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(10)”;

(b)yn lle “Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27F neu 27H o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”; ac

(c)yn lle “Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27J neu 27L o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”.

Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1979

11.—(1Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1979(11) yn unol â’r erthygl hon.

(2Yn rheoliad 4(2) (amrywio gorchmynion ynglŷn â grwpio plwyfi neu gymunedau) yn lle “or section 29” rhodder “section 27F or 27H”.

Lesley Griffiths

Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud addasiadau i ddeddfiadau y bernir eu bod yn briodol mewn cysylltiad â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaeth arbed sy’n ymddangos yn briodol mewn cysylltiad â’r Mesur.

Mae Rhan 3 o’r Mesur (trefniadau llywodraethu sydd ar gael) (adrannau 34 i 36) yn gwneud newidiadau i’r trefniadau llywodraethu a ganiateir i awdurdodau lleol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) yng Nghymru. Mae adran 34 o’r Mesur yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) i ddileu model y weithrediaeth maer a rheolwr cyngor o blith y mathau o drefniadau gweithrediaeth sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol arall. Mae adran 35 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru sy’n defnyddio trefniadau amgen roi’r gorau i wneud hynny a dechrau defnyddio math o drefniant gweithrediaeth a ganiateir yn eu lle a hynny yn unol â darpariaethau Atodlen 1. Mae adran 36 o’r Mesur yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth ac mae hefyd yn cynnwys darpariaethau arbed.

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn (trefniadau amgen a threfniadau gweithrediaeth: addasiadau a darpariaethau eraill) (Erthyglau 2 i 9) yn gwneud rhagor o ddarpariaeth ganlyniadol a darpariaeth arbed mewn cysylltiad â Rhan 3 o’r Mesur.

Mae erthygl 2 yn gwneud addasiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 er mwyn hepgor paragraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 3 sy’n cynnwys cyfeiriadau at ddarpariaethau ynglŷn â threfniadau llywodraethu yn Neddf 2000 sydd wedi’u diddymu gan y Mesur.

Mae erthygl 3 yn gwneud addasiad canlyniadol i reoliad 2(a)(i) o Reoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991 er mwyn hepgor rheolwr cyngor o’r rhestr o bersonau y bernir eu bod yn gysylltiedig ag awdurdod lleol ac na fernir eu bod yn annibynnol ar yr awdurdod.

Mae erthygl 4 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliad 10 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.

Mae erthygl 5 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 8 a 9 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.

Mae erthygl 6 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 3, 17, 20 a 24 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.

Mae erthygl 7 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 3 ac 11 o Reoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.

Mae erthygl 8 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 5 a 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor a threfniadau amgen.

Mae erthygl 9 yn gwneud darpariaeth arbed ynglŷn ag awdurdodau lleol sy’n defnyddio trefniadau amgen ac y mae’n ofynnol o dan adran 35 o’r Mesur iddynt ddefnyddio yn hytrach fath o drefniadau gweithrediaeth sy’n cyd-fynd ag Atodlen 1 i’r Mesur. Effaith erthygl 9 yw caniatáu i unrhyw awdurdod sy’n defnyddio trefniadau amgen pan ddaw Rhan 2 o’r Gorchymyn i rym barhau i wneud hynny nes ei fod wedi cydymffurfio â’i ddyletswydd o dan adran 35 o’r Mesur.

Mae Rhan 7 o’r Mesur (cymunedau a chynghorau cymuned) yn gwneud newidiadau i’r fframwaith o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chymunedau a chynghorau cymuned, yn benodol drwy ddiwygio darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”). Mae Pennod 2 o Ran 7 (trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau) yn gwneud newidiadau i’r trefniadau ynglŷn â threfnu cymunedau a’u cynghorau drwy ddiddymu adrannau 28 i 29B o Ddeddf 1972, mewnosod adrannau newydd 27A i 27M yn Neddf 1972, gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1972 a darpariaeth drosiannol.

Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn (trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau: addasiadau) (erthyglau 10 ac 11) yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed i Ddeddf 1972 gan Ran 7 o’r Mesur. Mae erthygl 10 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 er mwyn gosod cyfeiriad at adran 27D o Ddeddf 1972 yn lle cyfeiriad at adran 28, cyfeiriad at adran 27F neu 27H yn lle cyfeiriad at adran 29 a chyfeiriad at adran 27J neu 27L yn lle cyfeiriad at adran 29A. Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 4(2) o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1979 er mwyn gosod cyfeiriad at adrannau 24F neu 27H yn lle cyfeiriad at adran 29.