2013 No. 2948 (Cy. 291)

Datblygu Economaidd, Cymru

Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 194 o Ddeddf Cynllunio 20081, yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 194(5) o’r Ddeddf honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru, a daw i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.

Diwygio Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 19752

1

Mae paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 19752 (pŵer i wrth-wneud hawddfreintiau a hawliau eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

The use of any land which has been acquired by the Welsh Ministers under section 21A above, whether the use is by the Welsh Ministers or by a person deriving title under them, is authorised by virtue of this paragraph if it is in accordance with planning permission even if the use involves—

a

interference with an interest or right to which this paragraph applies, or

b

a breach of a restriction as to the user of land arising by virtue of a contract.

3

Yn is-baragraff (4)—

a

ar ôl “sub-paragraph (1)” mewnosoder “or (1A)”, a

b

ar ôl “works on” mewnosoder “, or use of,”.

4

Yn is-baragraff (7) ar ôl “sub-paragraph (1)” mewnosoder “or (1A)”.

Edwina HartGweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 194 o Ddeddf Cynllunio 2008 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (“Deddf 1975”) er mwyn awdurdodi Gweinidogion Cymru i wrth-wneud hawddfreintiau a hawliau eraill sy’n cyfyngu ar y defnydd o dir y maent wedi ei gaffael o dan adran 21A o Ddeddf 1975. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud hyn ond os yw’r defnydd yn unol â chaniatâd cynllunio. O dan baragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1975, y mae eisoes yn bosibl i Weinidogion Cymru wrth-wneud hawddfreintiau a hawliau eraill sy’n cyfyngu ar gyflawni gwaith ar dir o’r fath.

Drwy arfer y pŵer hwnnw, mae Gweinidogion Cymru, drwy’r Gorchymyn hwn, yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1975.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.