Manylion Daliadau5

1

Rhaid i’r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion y daliadau—

a

am y cyfnod o 13 Rhagfyr 2013 i 31 Mawrth 2014 ar 31 Gorffennaf 2014 neu cyn hynny; ac wedi hynny

b

ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar 31 Gorffennaf neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.

2

Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—

a

cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn cregyn gleision hynny a heuwyd yn y bysgodfa;

b

lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn cregyn gleision hynny ohoni;

c

cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl gregyn gleision hynny a gymerwyd o’r bysgodfa;

d

lleoliad y man y cymerwyd y cregyn gleision hynny ohono; a

e

pa bynnag wybodaeth bellach a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.