Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw’r ardal o wely’r môr ger Hafan Lydstep, Sir Benfro, a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;
ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw’r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn;
ystyr “cragen las” (“mussel”) yw unrhyw bysgodyn cragen o’r math Mytilus edulis;
ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20063;
ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 91 New Road, Ynysmeudwy, Pontardawe, Abertawe, SA8 4PP neu pa bynnag berson arall sydd â hawl i’r bysgodfa am y tro; ac
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19904.