NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi i Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) (“y Grantî”) yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision (Mytilus edulis) dros ardal o tua 168.4 hectar ger Hafan Lydstep, Sir Benfro, am gyfnod o 15 mlynedd yn dechrau ar 13 Rhagfyr 2013.

Diffinnir hyd a lled y bysgodfa drwy ddefnyddio’r cyfesurynnau a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn ac a ddangosir, at ddibenion eglurhaol yn unig, ar fap sydd ar gael i’w archwilio (os gwneir apwyntiad o flaen llaw) yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Mae erthygl 3 yn rhoi’r hawl i bysgodfa unigol.

Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn marcio terfynau’r bysgodfa ym mha bynnag fodd y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo o bryd i’w gilydd, ac yn cynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.

Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn cyflwyno manylion y daliadau yn flynyddol i Weinidogion Cymru, gan gynnwys gwybodaeth benodedig.

Mae erthygl 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn darparu cyfrifon blynyddol ac yn cydymffurfio â phob cais am wybodaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod y Grantî yn caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio ardal y bysgodfa a’r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn a’r ardal honno.

Mae erthygl 7 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith hawliau’r Goron ac mae erthygl 8 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.

Mae erthygl 9 yn gwahardd aseinio, neu drosglwyddo rywfodd arall, yr hawl i bysgodfa unigol a grëir gan y Gorchymyn hwn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.

Os na fodlonir Gweinidogion Cymru fod y Grantî yn ffermio’r bysgodfa neu’n gweithredu’r cyfyngiadau a’r rheoliadau a gynhwysir yn y Gorchymyn yn briodol, mae adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 yn darparu y caiff y Gweinidog wneud tystysgrif i’r perwyl hwnnw, a fydd yn terfynu’r bysgodfa yn llwyr, o ran yr ardal y gwneir y dystysgrif mewn perthynas â hi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.