2013 Rhif. 2946 (Cy. 290)

Pysgodfeydd Môr, CymruPysgod Cregyn

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Hafan Lydstep 2013

Made

Laid before the National Assembly for Wales

Coming into force

Gwnaed cais i Weinidogion Cymru gan Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) (“y Grantî”) am orchymyn sy’n rhoi’r hawl i bysgodfa unigol o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 19671(“y Ddeddf”).

Paratowyd Gorchymyn drafft gan Weinidogion Cymru a chyflwynwyd copi ohono i’r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Parodd y Grantî fod copïau printiedig o’r Gorchymyn drafft yn cael eu cyhoeddi a’u cylchredeg, a rhoddodd hysbysiad o’r cais yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r Gorchymyn gael ei wneud.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn y dylid gwneud y Gorchymyn canlynol yn awr.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o’r Ddeddf ac sydd bellach wedi eu breinio2ynddynt hwy.