Offerynnau Statudol Cymru
2013 Rhif 2939 (Cy. 287)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2013
Gwnaed
18th Tachwedd 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Tachwedd 2013
Coming into force
13 Rhagfyr 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(1) a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2013.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 13 Rhagfyr 2013 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(2) fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (5) o erthygl 19 (gwahardd glanio plâu planhigion a deunydd perthnasol), rhodder—
“(5) The matters are—
(a)the intended time and date of introduction of the potatoes;
(b)their intended use;
(c)their intended destination;
(d)their variety and quantity; and
(e)the producer’s identification number.”.
(3) Ar ôl paragraff (5) o erthygl 19, mewnosoder—
“(6) Paragraph (7) applies to—
(a)plants of Castanea Mill., Fraxinus L., Platanus L. or Quercus L. intended for planting, which have been grown or are suspected to have been grown in another member State; or
(b)plants of Castanea Mill., Platanus L. or Quercus L. intended for planting, which have been grown or are suspected to have been grown in Switzerland and to which the requirements of article 6 do not apply.
(7) Subject to article 22, no person shall land in Wales any such plants unless written notification of the intention to land the plants and of the matters contained in paragraph (8) is provided to an inspector prior to such landing.
(8) The matters are—
(a)the intended date of introduction of the plants;
(b)their intended destination;
(c)the quantity of the plants;
(d)their genus and species; and
(e)the producer’s identification number.”.
(4) Ym mharagraff (1) o erthygl 22 (eithriadau rhag gwaharddiadau a gofynion penodol) yn lle “and (3)” rhodder “, (4) and (7)”.
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy.158)) (“y prif Orchymyn”).
Mae erthygl 2(2) yn gwneud mân ddiwygiadau i’r materion y mae’n ofynnol eu hysbysu o dan erthygl 19(4) o’r prif orchymyn. Nid yw’n ofynnol cynnwys materion penodol yn yr hysbysiad mwyach.
Mae erthygl 2(3) yn gwneud darpariaeth i wahardd person rhag glanio yng Nghymru blanhigion penodol sydd wedi eu tyfu neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir, oni bai bod hysbysiad ysgrifenedig wedi ei roi ymlaen llaw i arolygydd awdurdodedig.
Mae erthygl 2(4) yn gwneud mân ddiwygiadau i erthygl 22 o’r prif orchymyn i adlewyrchu rhifau’r paragraffau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Er hynny mae asesiad rhagarweiniol o effaith erthygl 2(3) ar fusnes, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus wedi ei gynnwys ym Memorandwm Esboniadol yr offeryn hwn, sydd ar gael ochr yn ochr â’r offeryn ar http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm.
1967 p. 8; diwygiwyd adran 1(2) gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013/755 (Cy. 90), Atodlen 2, paragraff 43. Diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Atodlen 4, paragraff 8. Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 2 a 3 yn cael eu rhoi i “competent authority”, a ddiffinnir yn adran 1(2), o ran Cymru, fel Gweinidogion Cymru.
O.S. 2006/1643 (Cy.158); offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/2781 (Cy.248), O.S. 2012/3143 (Cy.315) ac O.S. 2013/888 (Cy.100).
