Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013 a daw i rym ar 12 Rhagfyr 2013.
Diwygio Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 20092.
(a)
yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan University Local Health Board”);
(b)
yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” (“Cwm Taf Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf” (“Cwm Taf University Local Health Board”); ac
(c)
yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda” (“Hywel Dda Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda” (“Hywel Dda University Local Health Board”).
Mae’r Gorchymyn Diwygio hwn yn diwygio Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)) er mwyn newid enwau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i Fyrddau Iechyd Lleol Prifysgol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.