- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
13 Tachwedd 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Tachwedd 2013
Yn dod i rym
12 Rhagfyr 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 203(9) a (10) a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013 a daw i rym ar 12 Rhagfyr 2013.
2. Mae Atodlen 1 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(2) (enwau byrddau iechyd lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir hwy ar eu cyfer) wedi ei diwygio fel a ganlyn:
(a)yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan University Local Health Board”);
(b)yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” (“Cwm Taf Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf” (“Cwm Taf University Local Health Board”); ac
(c)yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda” (“Hywel Dda Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda” (“Hywel Dda University Local Health Board”).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn Diwygio hwn yn diwygio Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)) er mwyn newid enwau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i Fyrddau Iechyd Lleol Prifysgol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: