2013 No. 2902 (Cy. 281)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2013 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2013.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
2
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 20072 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3
Yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod)—
a
yn lle Rhan E rhodder—
i
yng ngholofn 1—
E. Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Biliau preifat; a
ii
yng ngholofn 2—
Adrannau 52 a 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20133.
b
yn Rhan Ff (swyddogaethau amrywiol) ar ôl paragraff 17—
i
yng ngholofn 1, mewnosoder—
18. Swyddogaethau sy’n ymwneud ag absenoldeb teuluol aelodau awdurdod lleol
ii
yng ngholofn 2 mewnosoder—
Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 20134.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)