Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2013

Offerynnau Statudol Cymru

2013 No. 2902 (Cy. 281)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2013

Gwnaed

13 Tachwedd 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Tachwedd 2013

Yn dod i rym

5 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2013 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2013.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007

2.  Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.   Yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod)—

(a)yn lle Rhan E rhodder—

(i)yng ngholofn 1—

E. Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Biliau preifat; a

(ii)yng ngholofn 2—

Adrannau 52 a 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(3).; a

(b)yn Rhan Ff (swyddogaethau amrywiol) ar ôl paragraff 17—

(i)yng ngholofn 1, mewnosoder—

18. Swyddogaethau sy’n ymwneud ag absenoldeb teuluol aelodau awdurdod lleol; a

(ii)yng ngholofn 2 mewnosoder—

Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013(4)..

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

13 Tachwedd 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod (y mae rhaid iddi fod ar un o’r ffurfiau a bennir yn adran 11 o’r Ddeddf honno) onid yw’r swyddogaethau hynny i beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/399 (Cy.45)) (“y Prif Reoliadau”) yn pennu’r swyddogaethau hynny nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o’r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau.

Mae Atodlen 1 i’r Prif Reoliadau yn rhestru’r swyddogaethau hynny nad ydynt yn gyfrifoldeb gweithrediaeth awdurdod. Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr hon drwy ychwanegu swyddogaethau mewn perthynas â phwerau i hyrwyddo neu wrthwynebu biliau preifat yn unol ag adran 52 ac adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r rhestr hon drwy ychwanegu swyddogaethau mewn perthynas â Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013.

Effaith y diwygiadau hyn yw na all y swyddogaethau dan sylw fod yn gyfrifoldeb gweithrediaeth yr awdurdod.

(1)

2000 p.22. Diwygiwyd adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gan Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac amnewidiwyd cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gan adran 22, Atodlen 3, paragraffau 8, 13(1) a (3) o’r Ddeddf honno.