Offerynnau Statudol Cymru
2013 No. 2861 (Cy. 271) (C. 115)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013
Gwnaed
4 Tachwedd 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 12(3) o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013.
Cychwyn a chymhwyso
2. Daw Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (ac eithrio adran 12) i rym mewn perthynas â Chymru ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
4 Tachwedd 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dod â Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 i rym yng Nghymru. Daw’r Ddeddf i rym (ac eithrio adran 12, a ddaeth i rym drwy Gydsyniad Brenhinol) ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
