2013 Rhif 2843 (Cy. 270)

Arbed Ynni, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 19901, sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru2.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 20113.

Diwygio’r prif Reoliadau2

Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)3

Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

1

Yn lle’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar prawf modd” (“means-tested benefit”) rhodder—

  • ystyr “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” (“means-tested benefit”) yw—

    1. a

      cymhorthdal incwm a budd-dal tai (pob un fel y diffinnir “income support” a “housing benefit” yn ôl eu trefn yn Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 19924);

    2. b

      cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor (fel y diffinnir “council tax reduction scheme” yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 19925);

    3. c

      credyd pensiwn y wladwriaeth (fel y diffinnir “state pension credit” yn Neddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 20026);

    4. d

      credyd treth gwaith a chredyd treth plant (fel y diffinnir “working tax credit” a “child tax credit” yn ôl eu trefn yn Neddf Credydau Treth 20027) cyn belled ag nad yw incwm y ceisydd yn y naill achos na’r llall yn uwch na’r trothwy incwm perthnasol;

    5. e

      lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir “income-related employment and support allowance” yn Neddf Diwygio Lles 20078); ac

    6. f

      credyd cynhwysol (fel y diffinnir “universal credit” yn Neddf Diwygio Lles 20129);

2

Yn y diffiniad o “meddiannaeth breifat” (“private occupancy”) hepgorer “(gan gynnwys o dan drefniadau ecwiti a rennir)”.

Alun DaviesY Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 (O.S. 2011/656 (Cy. 94)).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” yn unol â diwygiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol i gynnwys Credyd Cynhwysol a gostyngiadau’r dreth gyngor, sy’n disodli cynllun budd-dal y dreth gyngor. Mae’r diffiniad o “meddiannaeth breifat” wedi ei ddiwygio i ganiatáu i’r rheini sydd o dan drefniadau ecwiti a rennir gael eu cynnwys yn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref.