Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2843 (Cy. 270)

Arbed Ynni, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

31 Hydref 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Tachwedd 2013

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990(1), sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011(3).

Diwygio’r prif Reoliadau

2.  Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

3.  Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(1Yn lle’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar prawf modd” (“means-tested benefit”) rhodder—

ystyr “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” (“means-tested benefit”) yw—

(a)

cymhorthdal incwm a budd-dal tai (pob un fel y diffinnir “income support” a “housing benefit” yn ôl eu trefn yn Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4));

(b)

cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor (fel y diffinnir “council tax reduction scheme” yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(5));

(c)

credyd pensiwn y wladwriaeth (fel y diffinnir “state pension credit” yn Neddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(6));

(d)

credyd treth gwaith a chredyd treth plant (fel y diffinnir “working tax credit” a “child tax credit” yn ôl eu trefn yn Neddf Credydau Treth 2002(7)) cyn belled ag nad yw incwm y ceisydd yn y naill achos na’r llall yn uwch na’r trothwy incwm perthnasol;

(e)

lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir “income-related employment and support allowance” yn Neddf Diwygio Lles 2007(8)); ac

(f)

credyd cynhwysol (fel y diffinnir “universal credit” yn Neddf Diwygio Lles 2012(9));

(2Yn y diffiniad o “meddiannaeth breifat” (“private occupancy”) hepgorer “(gan gynnwys o dan drefniadau ecwiti a rennir)”.

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

31 Hydref 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 (O.S. 2011/656 (Cy. 94)).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” yn unol â diwygiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol i gynnwys Credyd Cynhwysol a gostyngiadau’r dreth gyngor, sy’n disodli cynllun budd-dal y dreth gyngor. Mae’r diffiniad o “meddiannaeth breifat” wedi ei ddiwygio i ganiatáu i’r rheini sydd o dan drefniadau ecwiti a rennir gael eu cynnwys yn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref.

(1)

1990 p. 27; diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53).

(2)

Cyfarwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fod y swyddogaethau o dan adran 15 i fod yn arferadwy o ran Cymru ganGynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p. 32), mae’r swyddogaethau hynny’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources