2013 Rhif 2750 (Cy. 267)
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae’r Rheoliadau a ganlyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau a ganlyn at un o offerynnau’r UE a restrir yn Atodlen 1 gael ei ddehongli fe pe bai’n gyfeiriad at yr offeryn fel y’i diwygiwyd o dro i dro.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi 2 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 19903, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)4 o’r Ddeddf honno.
Ymgynghorwyd yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan y canlynol—
- a
paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19726, i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliad 3(3) ac Atodlen 1;
- b
adran 4(1), (2), (3), (4) ac (8) ac adran 10 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 20097 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r canlynol—
- i
rheoliad 21, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 2 o Atodlen 15, a
- ii
paragraff 2 o Atodlen 15; ac
- i
- c
adrannau 6(4)8, 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3)9 a 48(1)10 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru11, i’r graddau y maent yn ymwneud â darpariaethau eraill y Rheoliadau hyn.