2013 Rhif 2731 (Cy. 265)
Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 15 Tachwedd 2013.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn–—
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 20033.
Diwygio
2
Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2003 (dehongli) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 20124;
3
Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 2003 mewnosoder—
Amgylchiadau rhagnodedig: cael credyd cynhwysol6
Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 457(4)(b)(ai) o Ddeddf 19965 yw bod rhiant y disgybl yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 15 Tachwedd 2013.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)