Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2013

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2731 (Cy. 265)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

23 Hydref 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Hydref 2013

Yn dod i rym

15 Tachwedd 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 457(4)(b)(ai) a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 15 Tachwedd 2013.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn–—

ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003(3)..

Diwygio

2.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2003 (dehongli) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(4);.

3.  Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 2003 mewnosoder—

Amgylchiadau rhagnodedig: cael credyd cynhwysol

6.  Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 457(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996(5) yw bod rhiant y disgybl yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 15 Tachwedd 2013.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 er mwyn ychwanegu budd-dal neu lwfans ychwanegol sy’n rhoi’r hawl i blentyn hawlydd hawlio prydau bwyd a llety am ddim ar daith breswyl.

Mae cael Credyd Cynhwysol ar neu ar ôl 15 Tachwedd 2013 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 457 o Ddeddf Addysg 1996.

(1)

1996 p.56. Mewnosodwyd is-adran (4)(b)(ai) o adran 457 gan Ddeddf Diwygio Lles 2012, adran 31, Atodlen 2, paragraffau 37, 38. Fe’i dygwyd i rym ar 29 Ebrill 2013: gweler O.S. 2013/983, erthygl 3(1)(b)(i). Yn rhinwedd adran 569 o Ddeddf Addysg 1996, ystyr “prescribed” yn adran 457 yw wedi ei ragnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 2003/860 (Cy.107) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/706 (Cy.109).

(5)

Ystyr “pupil” yn adran 457 yw’r person y penderfynir ar ei gymhwystra i beidio â chodi tâl arno.