Darpariaethau trosiannol7

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran anheddau a fflatiau.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd y Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo, cyn 1 Ionawr 2016—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus yn cael ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol; a

b

gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi cael ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd y Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn dal i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol yn unol â’r Prif Reoliadau, a hynny cyn 1 Ionawr 2016; a

b

bod y gwaith adeiladu sydd i’w wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath yn dechrau ar 1 Ionawr 2016 neu wedi hynny ond ar 1 Ionawr 2017 neu cyn hynny, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.

4

Pan fo—

a

hysbysiad cychwynnol a roddir cyn 1 Ionawr 2016 yn cael ei amrywio gan hysbysiad diwygio a roddir ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny, a

b

y gwaith adeiladu sydd yn destun yr hysbysiad hwnnw yn dechrau ar 1 Ionawr 2017 neu cyn hynny,

mae’r Prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys i’r gyfran honno o’r gwaith adeiladu ag y gellid ei gwneud o dan yr hysbysiad cychwynnol hwnnw fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud ac fel pe na roddwyd yr hysbysiad diwygio.