Darpariaethau trosiannol6

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran—

a

cartrefi gofal fel y’u diffinir yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

b

ystafelloedd at ddibenion preswyl ac eithrio ystafelloedd mewn—

i

hostel;

ii

gwesty;

iii

carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc; a

iv

ysbyty.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo, cyn 30 Ebrill 2014—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus11 wedi ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol yn unol â’r Prif Reoliadau; a

b

gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi cael ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd y Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol yn unol â’r Prif Reoliadau a hynny cyn 30 Ebrill 2014; a

b

y gwaith adeiladu sydd i’w wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath yn dechrau ar 30 Ebrill 2014 neu wedi hynny ond cyn 30 Ebrill 2015, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.

4

Pan fo hysbysiad cychwynnol a roddir cyn 30 Ebrill 2014 wedi ei amrywio gan hysbysiad diwygio a roddir ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny, mae’r Prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys i’r gyfran honno o’r gwaith adeiladu ag y gellid ei gwneud o dan yr hysbysiad cychwynnol hwnnw fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud a phe na roddwyd yr hysbysiad diwygio.