- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran—
(a)cartrefi gofal fel y’u diffinir yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b)ystafelloedd at ddibenion preswyl ac eithrio ystafelloedd mewn—
(i)hostel;
(ii)gwesty;
(iii)carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc; a
(iv)ysbyty.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo, cyn 30 Ebrill 2014—
(a)hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus(1) wedi ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol yn unol â’r Prif Reoliadau; a
(b)gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi cael ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd y Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo—
(a)hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol yn unol â’r Prif Reoliadau a hynny cyn 30 Ebrill 2014; a
(b)y gwaith adeiladu sydd i’w wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath yn dechrau ar 30 Ebrill 2014 neu wedi hynny ond cyn 30 Ebrill 2015, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.
(4) Pan fo hysbysiad cychwynnol a roddir cyn 30 Ebrill 2014 wedi ei amrywio gan hysbysiad diwygio a roddir ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny, mae’r Prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys i’r gyfran honno o’r gwaith adeiladu ag y gellid ei gwneud o dan yr hysbysiad cychwynnol hwnnw fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud a phe na roddwyd yr hysbysiad diwygio.
diffinir hysbysiad adeiladu (“buildingnotice”), hysbysiad cychwynnol (“initialnotice”), hysbysiad diwygio (“amendmentnotice”) a hysbysiad corff cyhoeddus (“public body’snotice”) oll yn y Prif Reoliadau, gweler rheoliad 2(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: