2013 Rhif 2730 (Cy. 264)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio Rhif 3) a Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1(4) ac 8(1) o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011)1 (“y Mesur”) ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(1), 1A, 2, 3, 34 a 47(1) o Ddeddf Adeiladu 1984 2(“y Ddeddf”) a pharagraffau 1, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt 3, wedi ymgynghori, fel y maent yn ei ystyried yn briodol, yn unol ag adran 8(1)(d) o’r Mesur ac wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a chyrff tebyg eraill sydd, yn eu tyb hwy, yn cynrychioli’r buddion dan sylw yn unol ag adran 14(7) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio Rhif 3) a Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2013.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar—

a

30 Ebrill 2014 mewn perthynas â—

i

cartrefi gofal fel y’i diffinir yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 20004;

ii

ystafelloedd at ddibenion preswyl ac eithrio ystafelloedd mewn—

aa

hostel;

bb

gwesty;

cc

carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc;

dd

ysbyty, a

b

1 Ionawr 2016 mewn perthynas â thai annedd a fflatiau.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20095;

  • ystyr “meddiannydd” (“occupant”) yw person sy’n meddiannu preswylfa;

  • ystyr “preswylfa” (“residence”) yw’r ystyr a roddir iddo yn adran 6(1) o’r Mesur6;

  • ystyr “Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“ApprovedInspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 20107;

  • ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 20108.

Gofynion a Ragnodir at ddibenion y Mesur3

Mae system llethu tân awtomatig yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4) o’r Mesur os yw’r system yn cydymffurfio â Rhan 7A o’r Prif Reoliadau.

Diwygiadau i’r Prif Reoliadau4

1

Mae’r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

2

Mewnosoder wedi Rhan 7—

PART 7AAutomatic fire suppression systems

Provision of automatic fire suppression systems37A

1

This regulation applies where building work consists of the erection or material change of use of a building in relation to—

a

care homes as defined in section 3 of the Care Standards Act 2000;

b

rooms for residential purposes other than rooms in—

i

a hostel;

ii

an hotel;

iii

a prison or young offender institution; and

iv

a hospital

c

dwelling-houses and flats,

subject to paragraphs (4) and (5).

2

For the purposes of this regulation a material change of use comprises or includes a change of use within regulation 5 (a), (b), (c), (d), (g), (h) or (i).

3

A building to which this regulation applies must be provided with an automatic fire suppression system which is installed and operates in accordance with the requirements set in regulation 37B.

4

This regulation does not apply to buildings which are—

a

listed in accordance with section 1 of the Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 19909;

b

in a conservation area designated in accordance with section 69 of that Act; or

c

included in the schedule of monuments maintained under section 1 of the Ancient Monuments and Archaeological Areas Act 197910,

where installation of a fire suppression system would unacceptably alter their character or appearance.

5

This regulation does not apply to temporary buildings with a planned time of use of two years or less.

Requirements of automatic fire suppression systems37B

For the purposes of regulation 37A(3), the requirements of an automatic fire suppression system are the requirements set out in any document approved and issued under section 6 of the Building Act 1984 for the purpose of providing practical guidance as to the requirements of regulation 37A.

Diwygiadau i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy5

Yn rheoliad 8(1)(a) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy ar ôl “36 (water efficiency of new dwellings),” mewnosoder “37A (provision of automatic fire suppression systems),”.

Darpariaethau trosiannol

6

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran—

a

cartrefi gofal fel y’u diffinir yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

b

ystafelloedd at ddibenion preswyl ac eithrio ystafelloedd mewn—

i

hostel;

ii

gwesty;

iii

carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc; a

iv

ysbyty.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo, cyn 30 Ebrill 2014—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus11 wedi ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol yn unol â’r Prif Reoliadau; a

b

gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi cael ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd y Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol yn unol â’r Prif Reoliadau a hynny cyn 30 Ebrill 2014; a

b

y gwaith adeiladu sydd i’w wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath yn dechrau ar 30 Ebrill 2014 neu wedi hynny ond cyn 30 Ebrill 2015, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.

4

Pan fo hysbysiad cychwynnol a roddir cyn 30 Ebrill 2014 wedi ei amrywio gan hysbysiad diwygio a roddir ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny, mae’r Prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys i’r gyfran honno o’r gwaith adeiladu ag y gellid ei gwneud o dan yr hysbysiad cychwynnol hwnnw fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud a phe na roddwyd yr hysbysiad diwygio.

7

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran anheddau a fflatiau.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd y Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo, cyn 1 Ionawr 2016—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus yn cael ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol; a

b

gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi cael ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd y Prif Reoliadau a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn dal i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud pan fo—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol yn unol â’r Prif Reoliadau, a hynny cyn 1 Ionawr 2016; a

b

bod y gwaith adeiladu sydd i’w wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath yn dechrau ar 1 Ionawr 2016 neu wedi hynny ond ar 1 Ionawr 2017 neu cyn hynny, boed gwyro oddi wrth y cyfryw gynlluniau ai peidio.

4

Pan fo—

a

hysbysiad cychwynnol a roddir cyn 1 Ionawr 2016 yn cael ei amrywio gan hysbysiad diwygio a roddir ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny, a

b

y gwaith adeiladu sydd yn destun yr hysbysiad hwnnw yn dechrau ar 1 Ionawr 2017 neu cyn hynny,

mae’r Prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys i’r gyfran honno o’r gwaith adeiladu ag y gellid ei gwneud o dan yr hysbysiad cychwynnol hwnnw fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud ac fel pe na roddwyd yr hysbysiad diwygio.

Carl SargeantY Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod gofyniad i osod systemau llethu tân awtomatig yn Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”). Maent yn rhagnodi’r gofynion ar gyfer systemau o’r fath at ddibenion y Rheoliadau Adeiladu a Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (“y Mesur”).

O dan Ddeddf Adeiladu 1984 mae gan Weinidogion Cymru’r swyddogaeth o wneud Rheoliadau Adeiladu at ddiben diogelu iechyd a diogelwch pobl mewn adeiladau, ymhlith pethau eraill.

Mae’r Mesur yn darparu ei bod hi’n ofynnol darparu system llethu tân awtomatig sy’n cydymffurfio ag anghenion a ragnodir gan Weinidogion Cymru, mewn preswylfeydd pan gaiff y breswylfa ei chwblhau neu ei meddiannu gyntaf fel preswylfa.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi gofynion at ddibenion y Mesur. Gwnaiff hyn drwy gyfeirio at y gofynion cyfatebol sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu.

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Rheoliadau Adeiladu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu systemau llethu tân awtomatig mewn adeiladau penodol. Yr adeiladau hyn yw cartrefi gofal, ystafelloedd penodol at ddibenion preswyl a phreswylfeydd (tai a fflatiau). Bydd y gofynion yn gymwys i gartrefi gofal ac ystafelloedd penodol at ddibenion preswyl o 30 Ebrill 2014 ac i breswylfeydd o 1 Ionawr 2016.

Nid yw’n ofynnol i adeiladau rhestredig, adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth na henebion cofrestredig gydymffurfio â’r gofynion pan fyddai gosod system llethu tân awtomatig yn newid eu cymeriad neu eu golwg mewn modd annerbyniol.

Hefyd nid yw’n ofynnol i adeiladau dros dro gydag amser cynlluniedig o ddefnydd o ddwy flynedd neu lai cydymffurfio â’r gofynion.

Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn ddarpariaethau dros dro.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Ceir copïau oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.