Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2013
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2013 a daw i rym ar 25 Hydref 2013.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn:
Diwygio erthygl 1 o’r prif Orchymyn2.
(1)
““Directive 2011/24/EU” means Directive 2011/24/EU of the European Parliament and of the Council of 9 March 2011 on the application of patients’ rights in cross-border healthcare3;“National Contact Point” means the National Contact Point that Member States are required to designate under article 6 of Directive 2011/24/EU;”.
Diwygio erthygl 3 o’r prif Orchymyn3.
(1)
Yn erthygl 3(2)(c) o’r prif Orchymyn, ar ôl y geiriau “paragraphs (a) and (b)” dileer yr atalnodi a ganlyn “.” a mewnosoder “; and”.
(2)
“(d)
to perform the functions of the National Contact Point in Wales for the purposes of Directive 2011/24/EU as set out in regulations 3 to 6 of the National Health Service (Cross-Border Healthcare) Regulations 20134.”.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998 er mwyn diwygio swyddogaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae’r swyddogaethau wedi eu diwygio er mwyn rhoi’r swyddogaeth o gyflawni swyddogaethau’r Pwynt Cyswllt Cenedlaethol yng Nghyfarwyddeb 2011/24/EU o Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 9 Mawrth 2011 ar gymhwyso hawliau cleifion mewn gofal iechyd trawsffiniol (“y Gyfarwyddeb”) i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Yn unol â rheoliad 2(2) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Iechyd Trawsffiniol) 2013 (O.S. 2013/2269) (“Rheoliadau 2013”), mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ddynodi, o ran Cymru, berson neu gorff addas i fod yn bwynt cyswllt cenedlaethol at ddibenion y Gyfarwyddeb. Mae rheoliadau 3 i 6 o Reoliadau 2013 yn gosod dyletswyddau ar y pwyntiau cyswllt cenedlaethol dynodedig yng Nghymru a Lloegr o ran yr wybodaeth y mae’n ofynnol iddynt ei rhoi ar gael i gleifion preswyl (h.y. mewn perthynas â pwynt cyswllt cenedlaethol Cymru, personau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru) a chleifion ar ymweliad (h.y. y cleifion hynny nad oes ganddynt ymlyniad at y DU fel aelod-wladwriaeth) ac yn gosod dyletswyddau ar y pwyntiau cyswllt cenedlaethol dynodedig mewn perthynas â chydweithredu â phwyntiau cyswllt cenedlaethol eraill a’r Comisiwn Ewropeaidd ac ymgynghori â’r sefydliadau sy’n cynrychioli cleifion, darparwyr iechyd ac yswirwyr.