xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r disgrifiad o ddosbarthiadau o fangreoedd preswyl sydd yn y diffiniad o “preswylfa” yn adran 6(1) o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’n ychwanegu cartrefi plant fel dosbarth o fangreoedd preswyl.
Mae adran 1 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol bod system llethu tân awtomatig yn cael ei darparu mewn preswylfeydd pan fyddant wedi eu cwblhau neu pan fyddant yn cael eu meddiannu gyntaf fel preswylfa.
Lluniwyd asesiad effaith mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.