Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Tachwedd 2013.
4
Yn y rheoliad hwn, mae i “adeilad ynni a eithrir” (“excepted energy building”) yr un ystyr ag yn Erthygl 1(3) a’r Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20093.