Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Tachwedd 2013.

4

Yn y rheoliad hwn, mae i “adeilad ynni a eithrir” (“excepted energy building”) yr un ystyr ag yn Erthygl 1(3) a’r Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20093.

Diwygio Rheoliadau Adeiladu 20102

Yn Rheoliadau Adeiladu 20104 ar gyfer Atodlen 3 (Cynlluniau Hunanardystio ac Esemptiadau o’r Gofyniad i Roi Hysbysiad Adeiladu neu Adneuo Planiau Llawn)5 amnewidier Atodlen 3 fel y nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Carl SargeantY Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru