- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
11 Hydref 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 27(2) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym at ddiben gwneud rheoliadau yw 28 Hydref 2013—
(a)adran 3(2), (3)(c) a (d) a (5);
(b)adran 5(4) a (10)(d);
(c)adran 6(2) a (3);
(d)adran 7(3) a (4);
(e)adran 12(2) a (9)(d); ac
(f)adran 15(1).
3. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym yw 28 Tachwedd 2013.
(a)adran 1;
(b)adran 2, ac eithrio paragraff (b) o is-adran (5);
(c)adran 3, at y dibenion sy’n weddill;
(d)adran 4;
(e)adrannau 5, 6 a 7, at y dibenion sy’n weddill;
(f)adrannau 8 i 11;
(g)adran 12, at y dibenion sy’n weddill;
(h)adrannau 13 a 14;
(i)adran 15, at y dibenion sy’n weddill;
(j)adrannau 16 i 26;
(k)adran 28; ac
(l)yr Atodlen.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Hydref 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn y Ddeddf ar 28 Hydref 2013 at ddiben gwneud rheoliadau.
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym y darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2 ar 28 Tachwedd 2013 at bob diben arall, ac mae’n dwyn i rym bob darpariaeth arall yn y Ddeddf nad yw mewn grym eto ar y dyddiad hwnnw ac eithrio is-adran 2(5)(b) (sy’n estyn y diffiniad o “sefydliad busnes bwyd” i gynnwys sefydliad sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: