Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch ensymau bwydLL+C
6. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1332/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 4, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 18 a 24 (mesurau trosiannol) neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
