xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Toddyddion echdynnu

Rheolaethau ar doddyddion echdynnu

9.  Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw yng Nghyfarwyddeb 2009/32.

10.  Nid yw darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys i unrhyw doddydd echdynnu—

(a)a ddefnyddir wrth gynhyrchu unrhyw ychwanegion bwyd, fitaminau neu unrhyw ychwanegion maethol eraill, oni bai bod yr ychwanegion bwyd, y fitaminau neu’r ychwanegion maethol eraill hynny wedi eu rhestru yn Atodiad I; neu

(b)y bwriedir ei allforio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

11.  Yn y Rhan hon ystyr “toddydd echdynnu a ganiateir” yw 

(a)toddydd echdynnu—

(i)a restrir yn Atodiad I,

(ii)a ddefnyddir yn unol â’r amodau defnyddio ac o fewn unrhyw derfynau uchaf ynglŷn â gweddillion a bennir yn yr Atodiad hwnnw,

(iii)nad yw’n cynnwys swm sy’n beryglus yn wenwynegol o unrhyw elfen neu sylwedd,

(iv)nad yw, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau sy’n deillio o feini prawf penodol ynglŷn â phurdeb, yn cynnwys mwy nag 1 mg/kg o arsenig neu fwy nag 1 mg/kg o blwm, a

(v)sy’n bodloni gofynion Erthygl 3(c) o ran y meini prawf ynglŷn â phurdeb; neu

(b)dŵr y gall sylweddau sy’n rheoleiddio asidedd neu alcalinedd fod wedi eu hychwanegu iddo; neu

(c)sylweddau bwyd sydd â phriodweddau toddydd.

12.  Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw doddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir yn doddydd echdynnu wrth gynhyrchu bwyd.

13.—(1Ni chaiff unrhyw berson osod ar y farchnad—

(a)toddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir; na

(b)unrhyw fwyd ac ynddo neu arno doddydd echdynnu wedi ei ychwanegu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir.

(2Ni chaiff unrhyw berson osod ar y farchnad doddydd echdynnu nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 14.

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r wybodaeth a ganlyn ymddangos ar y pecyn, y cynhwysydd neu’r label —

(a)yr enw masnachol fel y’i nodir yn Atodiad I;

(b)awgrym clir bod y deunydd o ansawdd sy’n addas i’w defnyddio at echdynnu bwyd neu gynhwysion bwyd;

(c)cyfeiriad a all gael ei ddefnyddio i adnabod y swp neu’r lot;

(d)enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithgynhyrchydd neu’r paciwr neu enw neu enw busnes a chyfeiriad gwerthwr sydd wedi ei sefydlu yn nhiriogaeth yr UE;

(e)y swm net ar ffurf unedau o gyfaint; ac

(f)os oes angen hynny, yr amodau storio arbennig neu’r amodau defnyddio.

(2Caniateir i’r manylion a bennir yn is-baragraffau (c), (d), (e) ac (f) o baragraff (1) ymddangos fel arall ar y dogfennau masnach sy’n cyfeirio at y swp neu’r lot y maent i’w cyflenwi gydag ef wrth eu dosbarthu neu cyn eu dosbarthu.

(3Rhaid i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) fod yn hawdd i’w weld, yn glir i’w ddarllen ac yn annileadwy.

(4Caniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) gael ei darparu mewn mwy nag un iaith, ond rhaid i un o leiaf o’r ieithoedd hynny fod yn hawdd i’r prynwr ei deall oni bai bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau bod y prynwr yn cael gwybod am yr wybodaeth benodedig.