xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 No. 2591 (Cy. 255)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Gwnaed

7 Hydref 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Hydref 2013

Yn dod i rym

31 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a),(e) ac (f),17(1) a (2), 26(1), (2)(e) ac (f) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), fel y’u darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad i unrhyw rai o offerynnau’r UE a bennir yn rheoliad 2(4) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygiwyd o dro i dro.

Yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth i’r Rheoliadau hyn gael eu paratoi a’u gwerthuso.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn y drefn honno o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), a’u trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a’i ddiwygio gan Ran 1 o’r Atodlen i ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu - Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).