2013 Rhif 2535 (Cy. 250)
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2014.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 20052
1
Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 20053 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1)—
a
dileer y diffiniad o “Deddf 1972”;
3
Yn lle rheoliad 6 rhodder—
Ystyriaethau perthnasol mewn apelau sy’n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf 19986
1
Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) i (ch), rhaid i’r materion i’w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl gynnwys—
a
unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd; a
b
y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92.
2
Y trefniadau derbyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw’r trefniadau a gyhoeddir pan fynegwyd unrhyw hoff ddewis gan yr apelydd.
3
Caiff ystyriaeth o’r mater a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) gynnwys ystyried a yw’r trefniadau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion gorfodol—
i
Cod Derbyniadau Ysgol, neu
ii
Rhan 3 o Ddeddf 1998.
4
Pan wnaed penderfyniad ar y sail y byddai rhagfarn o’r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o’r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i’w gynnig i blentyn dim ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod un o’r amodau a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys.
5
Yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—
a
y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi cydymffurfio â gofynion—
i
Cod Derbyniadau Ysgol, neu
ii
Rhan 3 o Ddeddf 1998;
b
y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi eu gweithredu’n gywir; neu
c
nid oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol wedi ei wneud o dan amgylchiadau’r achos.
6
Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl roi sylw i’r canlynol—
a
y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol y dylai’r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a
b
unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu ynghylch pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.
7
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hoff ddewis” (“preference”) yw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 86(1) neu adran 86A(1)6, mewn perthynas â blwyddyn ysgol 2013-2014, a’r blynyddoedd ysgol dilynol.
4
Yn lle rheoliad 7 rhodder y canlynol—
Talu lwfansau7
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un neu ragor o baragraffau Atodlen 1.
2
Caiff yr awdurdod lleol perthnasol dalu i aelod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) lwfansau ar gyfer—
a
colled ariannol;
b
teithio; ac
c
cynhaliaeth.
3
Mae’r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod ar y cyfraddau mwyaf diweddar a nodir ar gyfer taliadau i aelodau cynghorau cymuned a thref mewn adroddiad (“yr adroddiad”) gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol7 a ddyroddir o dan Ran 8 o Fesur 2011 (aelodau: taliadau a phensiynau).
4
Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at ddyletswydd a gymeradwywyd i’w ddarllen fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at fod yn bresennol mewn cyfarfod o banel apêl.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)