Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2535 (Cy. 250)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

1 Hydref 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Hydref 2013

Yn dod i rym

1 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94, 95 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)dileer y diffiniad o “Deddf 1972”;

(b)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

ystyr “Cod Derbyniadau Ysgol” (“School Admissions Code”) yw unrhyw god ar gyfer derbyniadau ysgol a ddyroddir o dan adran 84(4);;

ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(5);.

(3Yn lle rheoliad 6 rhodder—

Ystyriaethau perthnasol mewn apelau sy’n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf 1998

6.(1) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) i (ch), rhaid i’r materion i’w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl gynnwys—

(a)unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd; a

(b)y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92.

(2) Y trefniadau derbyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw’r trefniadau a gyhoeddir pan fynegwyd unrhyw hoff ddewis gan yr apelydd.

(3) Caiff ystyriaeth o’r mater a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) gynnwys ystyried a yw’r trefniadau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion gorfodol—

(i)Cod Derbyniadau Ysgol, neu

(ii)Rhan 3 o Ddeddf 1998.

(4) Pan wnaed penderfyniad ar y sail y byddai rhagfarn o’r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o’r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i’w gynnig i blentyn dim ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod un o’r amodau a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys.

(5) Yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—

(a)y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi cydymffurfio â gofynion—

(i)Cod Derbyniadau Ysgol, neu

(ii)Rhan 3 o Ddeddf 1998;

(b)y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi eu gweithredu’n gywir; neu

(c)nid oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol wedi ei wneud o dan amgylchiadau’r achos.

(6) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl roi sylw i’r canlynol—

(a)y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol y dylai’r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a

(b)unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu ynghylch pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.

(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hoff ddewis” (“preference”) yw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 86(1) neu adran 86A(1)(6), mewn perthynas â blwyddyn ysgol 2013-2014, a’r blynyddoedd ysgol dilynol.

(4Yn lle rheoliad 7 rhodder y canlynol—

Talu lwfansau

7.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un neu ragor o baragraffau Atodlen 1.

(2) Caiff yr awdurdod lleol perthnasol dalu i aelod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) lwfansau ar gyfer—

(a)colled ariannol;

(b)teithio; ac

(c)cynhaliaeth.

(3) Mae’r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod ar y cyfraddau mwyaf diweddar a nodir ar gyfer taliadau i aelodau cynghorau cymuned a thref mewn adroddiad (“yr adroddiad”) gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol(7) a ddyroddir o dan Ran 8 o Fesur 2011 (aelodau: taliadau a phensiynau).

(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at ddyletswydd a gymeradwywyd i’w ddarllen fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at fod yn bresennol mewn cyfarfod o banel apêl.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Hydref 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 94, 95 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”). Maent yn gymwys i’r holl apelau a wrandewir ar 1 Ionawr 2014 neu ar ôl hynny mewn cysylltiad â phenderfyniadau i dderbyn (neu i beidio â derbyn) disgyblion i ysgolion. Maent yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).

Mae rheoliad 2 yn rhoi rheoliad 6 newydd yn lle’r hen un yn Rheoliadau 2005. Mae’r rheoliad newydd yn darparu y caiff panelau apêl ystyried a yw trefniadau derbyn yn anghyfreithlon am nad ydynt yn cydymffurfio â naill ai Deddf 1998, neu ddarpariaethau gorfodol unrhyw god derbyniadau ysgol (a ddyroddir o dan adran 84 o Ddeddf 1998). Pan fydd ysgol yn gwrthod rhoi lle i blentyn ar y sail y byddai derbyn y plentyn yn torri’r terfyn statudol ar faint dosbarth babanod oni bai bod camau perthnasol yn cael eu cymryd i osgoi’r toriad hwnnw, dim ond ar seiliau cyfyngedig penodol y caiff panelau gadarnhau’r apêl. Mae’r rheoliad 6 newydd yn darparu y caiff panel gadarnhau’r fath apelau os yw’r panel wedi ei fodloni naill ai y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai’r trefniadau derbyn perthnasol wedi cael eu gweithredu’n gywir, neu pe baent wedi bod yn gyfreithlon, neu os yw’r panel wedi ei fodloni bod penderfyniad yr awdurdod derbyn yn afresymol.

Mae rheoliad 2 hefyd yn rhoi rheoliad 7 newydd yn lle’r hen un fel bod lwfansau y caniateir eu talu i aelodau panelau yn adlewyrchu’r cyfraddau sy’n gymwys i Gynghorwyr Cymunedol o dan Ran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

(1)

1998 p.31. Mewnosodwyd is-adran 5A yn adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Mewnosodwyd is-adran 3A yn adran 95 gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Diwygiwyd adran 84 gan adran 40 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) a Rhan 6 o Atodlen 18 iddi.

(6)

Mewnosodwyd adran 86A yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan adran 150 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(7)

Gwneir darpariaeth ar gyfer Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn adran 141 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources